Cwrdd â WNO

Mark Llewelyn Evans

Hyfforddodd y canwr opera, yr awdur a’r entrepreneur creadigol o Gymru, Mark Llewelyn Evans yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol, Llundain. Ers dros 25 mlynedd, mae Mark wedi gweithio ochr yn ochr â llawer o artistiaid enwog gan gynnwys y Fonesig Kiri Te Kanawa, David Blaine a Syr Bryn Terfel. Mae ei yrfa canu yn ymestyn o dai opera rhyngwladol i ffilmiau a chanu o flaen y torfeydd cyn gemau rygbi'r Chwe Gwlad. Cyrhaeddodd albwm cyntaf Mark  frig siartiau clasurol y DU, gan gynnwys ei sengl elusennol, Tell my Father a berfformiodd gyda Band y Gwarchodlu Cymreig er budd eu Hapêl ar gyfer Afghanistan. Yn 2015 penderfynodd Mark fynd â’i angerdd am opera ymhellach gyda’r prosiect ABC of Opera: gyda’r nod o fagu hyder, dathlu amrywiaeth ac annog creadigrwydd ymhlith pobl ifanc. Cyflwynwyd gwobr Entrepreneuriaid Creadigol Amati Guildhall i Mark yn 2019, 2021 & 2022.