Mark Jonathan
Mae Mark wedi gweithio’n eang yn ystod ei yrfa ym myd opera, bale, drama a theatr gerdd ledled y byd, gan gynnwys Antwerp, Barcelona, Berlin, Copenhagen, Dulyn, Florence, Helsinki, Los Angeles, Madrid, Mexico, Munich, Efrog Newydd, Paris, Rhufain, Stockholm, Strasbourg, Stuttgart, Tel Aviv, Tokyo, Fienna a Washington. Mae hefyd wedi gweithio ledled y DU, gan gynnwys Glyndebourne, The Royal Ballet, Birmingham Royal Ballet, Scottish Opera, Buxton Festival, Opera Holland Park, Longborough Festival, Grange Festival, West End Llundain, a’r National Theatre – lle roedd yn Bennaeth Goleuo. Mae ei gynyrchiadau blaenorol ar gyfer WNO yn cynnwys Dead Man Walking, Fidelio, The Consul, The Prisoner, Pelléas et Mélisande, I puritani a Lulu, y cafodd ei enwebu enwebiad ar gyfer y Knight of Illumination amdani, ac enillodd y wobr Vanessa yn Glyndebourne ar ôl hynny.