Astudiodd y Bariton, Mark Stone, fathemateg yn King’s College, Caergrawnt, a chanu yn y Guildhall School of Music & Drama. Ym 1998, enillodd Wobr Decca yng Ngwobrau Kathleen Ferrier ac erbyn hyn mae'n perfformio mewn tai opera ledled Ewrop, America ac yn Seland Newydd.
Gwaith diweddar: White Knight/Cheshire Cat Alice's Adventures Under Ground (Royal Opera House); Marcello La bohème (Copenhagen Opera Festival); Alberich Das Rheingold (Longborough Festival); Papageno The Magic Flute (WNO)