
Cwrdd â WNO
Martin Constantine
Trosolwg
Hyfforddwyd Martin Constantine yn Old Vic Theatre School, Bryste. Yn gyfarwyddwr opera hynod lwyddiannus, mae’n Gadeirydd Rhyngwladol Cyfarwyddo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Enillodd ei gynhyrchiad Paul Bunyan, i WNO, Wobr RPS ac fe’i henwebwyd am Wobr South Bank Sky Arts.
Gwaith diweddar: Cyfarwyddwr La Cenerentola (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru); Marsha (LIVEARTSHOW); The Iris Murder (Hebrides Ensemble)