
Cwrdd â WNO
Martin Lloyd
Daw Martin Lloyd o Abertawe. Mae’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol McMaster yng Nghanada.
Bu’n aelod llawn amser o Gorws WNO am ddeunaw mlynedd tan ddiwedd 2024. Cyn hynny bu’n cyfuno gwaith fel canwr, athro a chynghorydd addysg. Yn ogystal, mwynhaodd lwyddiant nodedig yng nghystadleuaeth yr Eisteddfod, gan gynnwys y Wobr Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2004.
Wrth weithio’n llawn amser i WNO, perfformiodd Martin nifer o rolau yn cynnwys Iarll Ceprano yn Rigoletto, Dr Grenvil yn La traviata, Alcindoro yn La bohème a Mr Christmas yng nghynhyrchiad gwreiddiol Blaze of Glory!.




