Dechreuodd Martin ei yrfa gerddorol yn chwarae’r corned i’w fand pres lleol yn yr Alban. Mae wedi arwain yr National Youth Brass Band of Scotland ac roedd yn aelod o Brighouse and Rastric Band. Trosglwyddodd i chwarae’r trymped tra roedd yn Huddersfield School of Music cyn dilyn cwrs ôl-radd yn yr Royal Northern College of Music ym Manceinion a’r National Centre for Orchestral Studies, yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain.
Cyn ymuno â WNO, roedd Martin yn mwynhau ‘gyrfa chwe wythnos hynod brysur yn gerddor llawrydd’.
Ymhlith uchafbwyntiau personol Martin gyda WNO hyd yma y mae: ‘Cyfarfod a fy ngwraig, sy’n gyn aelod o gôr, a pherfformiadau cyflawn Ring Cycle Wagner. (Yn y drefn honno...)’
Y tu hwnt i WNO, mae Martin yn gefnogwr gydol oes, brwd o ddramâu Shakespeare a phedair yn rhagor yn unig o’i ddramâu y mae angen iddo eu gweld yn fyw ar lwyfan, er mwyn cwblhau’r canon.
Mae Martin wedi arwain Cerddorfa Symffoni Dinas Caerdydd ers nifer o flynyddoedd, grŵp talentog o berfformwyr amatur ac mae’n ddiolchgar bob amser am ymddangosiad cyfeillion llinynnol a lleisiol teulu’r WNO fel unawdwyr.