
Melly Still
Mae Melly Still wedi gweithio fel cyfarwyddwr, coreograffydd, dylunydd ac addasydd trwy gydol y DU, Ewrop, y Dwyrain Pell a’r UDA. Cafodd ei chynhyrchiad National Theatre Coram Boy ei henwebu ar gyfer gwobrau Cyfarwyddwr Gorau a Dyluniad Gorau’r Gwobrau Olivier a Tony, tra cafodd ei chynhyrchiad o Rusalka ar gyfer Glyndebourne Festival Opera yn 2019 ei ryddhau ar DVD i lwyddiant mawr. Agorodd cynhyrchiad Melly o My Brilliant Friend yn y Rose Theatre, Kingston, yn 2017, a gafodd ei berfformio’n hwyrach yn y National Theatre yn 2019. Mae ei gwaith y dyfodol yn cynnwys cynyrchiadau newydd ar gyfer Opera Köln, Nevill Holt a Santa Fe Opera.
Gwaith diweddar: Breaking the Waves (Theater St Gallen); The Wreckers (Glyndebourne); Cymbeline (RSC); From Morning to Midnight a The Revenger’s Tragedy (National Theatre); Captain Corelli’s Mandolin (West End); The Lovely Bones (Taith y DU a’r UDA).