
Cwrdd â WNO
Meredith Lewis
Actor a hwylusydd creadigol Cymreig/Canadaidd yw Meredith. Ar ôl graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2020, mae Meredith wedi gweithio’n bennaf ym myd theatr, gan gynnwys comedi, pypedwaith a symud. Yn fwyaf diweddar mae hi wedi gweithio gyda’r HandleBards yn eu cynhyrchiad pedair llaw o A Midsummer Night’s Dream, yn ogystal â pherfformiad cyntaf y DU o The Moors yn y Hope Theatre, a The Odyssey yn The Unicorn Theatre. Mae Meredith hefyd yn rhedeg ei sefydliad ei hun, PlayDates, cwmni ysgrifennu newydd sy'n canolbwyntio ar drefnu a hwyluso darlleniadau bwrdd i awduron a datblygu eu gwaith.