Cwrdd â WNO

Mica Liberta-Smith

Bariton anneuaidd yn byw yng Nghaerdydd yw Mica. Tra’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, bu Mica yn Gyd-enillydd Gwobr Ganu Adelina Patti Bel Canto (2020) a chyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Opera Janet Price (2021), gan hefyd ennill MA mewn Uwch Berfformiad Opera o Ysgol Opera David Seligman CBCDC yng Ngorffennaf 2022. Yn awr mae Mica yn datblygu gyrfa fel unawdydd corawl, perfformiad ac opera. Rhai o’i rolau diweddar yw Marcello (La bohème), New Aquarian Opera; Collatinus (ROL), Opera Ieuenctid Prydain; Alidoro (La Cenerentola), Barn Opera, Vermont UDA; Colline (La bohème), Opera al Mare, yr Eidal; prosiectau R&D, Unlimited; a Figaro (Le Nozze di Figaro), Debut Opera. Mae Mica yn falch iawn o fod yn rhan o’r dathliad arbennig yma o Opera Ieuenctid WNO, gan iddo berfformio gyda’r cwmni yn y gorffennol fel Drebyednyetsov yn Cherry Town, Moscow, Shostakovich ac fel yr Iarll Heinrich yn Black Spider, Judith Weir.