Cwrdd â WNO

Michael Clifton-Thompson

Tenor

Astudiodd Michael ganu gydag Irene Livingstone ac yn ddiweddarach, Freddie Coz yn Royal Northern College of Music. Cyn ymuno â WNO, bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol ac mae wedi bod yn heddwas.

Mae uchafbwyntiau personol Michael gyda WNO yn niferus ac yn amrywiol. Mae wedi recordio yng nghwmni cantorion amlwg yn cynnwys Pavarotti a Joan Sutherland ac mewn cyngherddau yn yr Royal Albert Hall, Birmingham Symphony Hall ac mewn cyngerdd ar y cyd gyda chantorion y BBC Singers yn yr Alter Oper, Frankfurt, dan arweiniad Georg Solti. Mae hefyd yn myfyrio: ‘Unwaith, roeddem yn byw ym Mharis am fis yn ystod ymarferion a pherfformio Leonora a Fidelio gan Beethoven yn y Champs Elysees Theatre. Cyfle gwych i brofi bywyd Paris yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.’

Y tu hwnt i WNO, mae Michael yn chwarae sboncen i dîm lleol, yn mwynhau nofio mewn dŵr agored, sgïo, beicio a cherdded.