
Mynychodd Monika goleg cerdd yng Ngwlad Pwyl ac mae ganddi Ddiploma ôl-radd gan London College of Music.
Cyn ymuno â WNO yn llawn amser, bu’n gweithio fel ecstra yng Nghorws Scottish Opera, yr English National Opera a WNO. Mae hi wedi perfformio gyda Pavilion Opera ac wedi canu mewn cyngherddau yn y DU a thramor.
Un o uchafbwyntiau Monika gyda WNO hyd yma yw canu ym Mhalas Buckingham a theithio i wledydd Oman, y Ffindir a Dubai. Yn ddiweddar, canodd ran Susanna yn Khovanshchina.
Diddordebau Monika tu hwnt i’r WNO yw coginio, garddio a cherdded.