Cwrdd â WNO
Narek Hakhnazaryan
Trosolwg
Ganwyd Narek Hakhnazaryan yn Yerevan, Armenia, ac fe astudiodd yn Ysgol Gerdd Sayat-Nova, Conservatoire Moscow a Conservatoire Cerddoriaeth New England. Enillodd y Fedal Aur a’r Wobr Gyntaf ar gyfer y Soddgrwth yng Nghystadleuaeth Ryngwladol XIV Tchaikovsky yn 2011 pan oedd yn 22 mlwydd oed, ac o 2014 tan 2016 roedd yn un o Artistiaid y Genhedlaeth Newydd y BBC. Mae Hakhnazaryan yn Artist Preswyl gyda Cherddorfa Ffilharmonig Malta, ac yn 2017 dyfarnwyd y teitl ‘Honored Artist of Armenia’ iddo gan yr Arlywydd Serzh Sargsyan. Mae Hakhnazaryan yn canu soddgrwth 1707 Joseph Guarneri ac yn defnyddio bwâu F X Tourte a Benoit Rolland.