Cwrdd â WNO

Natalya Romaniw

Graddiodd Natalya Romaniw o’r Guildhall School of Music & Drama, lle’i gwobrwywyd gyda’r Fedal Aur fawreddog yn ei blwyddyn olaf. Ers graddio, enillodd sawl gwobr gan gynnwys y Loveday Song Prize, y Kathleen Ferrier Award yn 2012, a'r Gystadleuaeth Houston Grand Opera Eleanor McCollum. Roedd Natalya hefyd yn enillydd Artist Ifanc y Flwyddyn y Gramaphone Classical Music Awards 2020, Gwobr Gantores y Royal Philharmonic Society 2020 Awards, enwebydd operatig yng nghategori ‘breakthrough’ The Times y Southbank Sky Arts Awards, 2016 Critic’s Choice Award for Music, a chyrhaeddodd rownd derfynol y Wobr Gân yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC 2009.

Gwaith diweddar: rolau teitl Tosca (debut yn ROH), Ariadne auf Naxos, Rusalka (Garsington Opera), a Jenůfa (debut yn Opéra de Rouen Normandie); Blanche Dialogues de Carmélites a Ortlinde Die Walküre (Houston Grand Opera).