
Nathalie Pallandre
Cafodd Nathalie Pallandre ei geni a’i magu ger Lyon, Ffrainc, lle bu’n astudio celf, tecstilau a dylunio gwisgoedd. Yn ystod ei blynyddoedd cynnar, gweithiodd gyda Groupe Kraft fel actores a dylunydd gwisgoedd. Yn 2004, roedd yn un o grewyr Rouge Velvet, stiwdio wisgoedd gyfunol a oedd yn creu gwisgoedd ar gyfer opera, dawns a'r theatr tan 2011.
Ers 2006, mae Nathalie wedi bod yn dylunio gwisgoedd ar gyfer dawns, y theatr a ffilmiau byr. Ers 2011, mae hi wedi bod yn ddylunydd cynorthwyol i gyfarwyddwyr opera gan gynnwys Simon McBurney, John Full James, Christophe Honoré, James Bonas a Tobias Kratzer.
Gwaith diweddar: Mauvaises filles (Sandrine Lanno/Sonia Chiambretto, L'indicible Compagnie), No Gambling (Simone Aughterlony, Imbricated Real).