Nicky Spence
Ganwyd Nicky Spence yn Dumfries ac fe astudiodd yn y Guildhall School of Music & Drama a’r National Opera Studio. Mae Nicky yn rhoi datganiadau ar draws y byd, ac mae’n recordiwr toreithiog o gerddoriaeth. Yn 2020, enillodd y Wobr Lleisiol y BBC Music Magazine a’r Wobr Lleisiol Unawdol Gramophone ar gyfer ei recordiad clodwiw o The Diary of One Who Disappeared gan Janáček. Derbyniodd Nicky wobr Personoliaeth y Flwyddyn gan BBC Music Magazine yn 2022. Mae Nicky yn Llysgennad Help Musicians ac mi fydd yn Llywydd yr Independent Society of Musicians gan ddechrau’r rôl yn 2024/2025. Cafodd ei wneud yn OBE yn ystod Anrhydeddau Penblwydd y Brenin 2023.
Gwaith diweddar: Laca Jenůfa (Royal Opera); Siegmund The Valkyrie (English National Opera); Albert Gregor Věc Makropulos (Deutsche Staatsoper); Tichon Káťa Kabanová (Glyndebourne Festival) ac Erik Der fliegende Holländer (Grange Park Opera).