Cwrdd â WNO

Nina Hayward

Hyfforddodd Nina yn yr Addict Dance Academy. Ers graddio, mae hi wedi perfformio a chreu coreograffi ar gyfer teledu, ffilm, theatr a chyngherddau o amgylch y DU ac yn rhyngwladol. Mae Nina wrth ei bodd ei bod yn cael perfformio am y tro cyntaf gydag WNO yn Candide.

Mae ei chredydau WNO yn cynnwys: Miss Americana (Taith y DU a’r West End), Beauty and the Beast (The Playhouse), Dick Whittington (The Playhouse), The Little Mermaid (Taith Ryngwladol), Aladdin (Taith Ryngwladol), The Super Duper 70's Show (Taith y DU), Drink Up Thy Cider (The Redgrave Theatre).

Mae ei chredydau teledu yn cynnwys: What It Feels Like for a Girl (BBC), The Chris and Rosie Ramsey Show (BBC), The Lazarus Project (SKY MAX), Our Boarding School (CBBC).

Mae ei gwaith arall yn cynnwys: Dawnsiwr i Daith Ewrop Remy Bond, Dawnsiwr i KRUSH yn BS3 LIVE Festival (Stadiwm Ashton Gate) a British Gas. 

Credydau coreograffi: The Chris and Rosie Ramsey Show (BBC), Fleur East, Ashton's Showgirls, Hoseasons Awards, a’r Chips Away Awards.