Cwrdd â WNO

Njabulo Madlala

Hyfforddodd Njabulo Madlala yn y Guildhall School of Music & Drama ac yn Academi Llais Rhyngwladol Caerdydd. Yn 2010 fe enillodd y Kathleen Ferrier Award. Mae wedi perfformio gyda chwmnïau yn cynnwys The Royal Opera, Bergen National Opera, English National Opera, English Touring Opera, Scottish Opera, Grange Park Opera ac Opera Holland Park. Mae ei uchafbwyntiau cyngerdd yn cynnwys Symffoni Rhif 9 Beethoven gyda’r Minnesota Orchestra ac Elijah gan Mendelssohn gyda’r Royal Philharmonic Orchestra.

Gwaith diweddar: Tywysog Yamadori Madam Butterfly (English National Opera); Jim Porgy and Bess (ENO, Dutch National Opera, Theater an der Wien); Aswini Twin yn Sukanya gan Ravi Shankar (ROH/LPO)