
Noemí Luz
Mae Noemí Luz yn ddawnsiwr fflamenco o Lundain sydd bellach wedi’i lleoli yn Sbaen a’r DU. Derbyniodd hyfforddiant dawns glasurol yn Elmhurst Ballet School a Central School of Ballet cyn cael ei mentora mewn fflamenco traddodiadol gydag Yolanda Heredida yn Seville am chwe blynedd. Mae wedi perfformio mewn lleoliadau yn Sbaen megis Tablao Arenal, Casa de la Guitarra, Peña Perla de Cadiz ac ar CanalSur TV a RTVE. Mae Noemi yn gyd-gyfarwyddwr Luz & Mannion Dance (Dotdotdot Dance gynt) sydd wedi perfformio yn Sampled (Sadler’s Wells, 2017) ac mae eu cynyrchiadau’n cynnwys No Frills (Flamenco y Mestizos, Madrid 2016). Mae gwaith coreograffi Noemí’n cynnwys The Ugly Truth (Coetani Experimental Flamenco Festival 2016) ac Into Being (Sadler's Wells Takeover/National Theatre River Stage 2018).
Gwaith diweddar: Coreograffi Life, Melvin, is a fish (Teatro de la Maestranza, Seville 2021), a phrosiectau Luz & Mannion yn cynnwys In Body (Sadler’s Wells, comisiwn gwreiddiol), Dancenet Sweden 2019, Blue Ghost (Taith Gyntaf y DU 2023) a Dancing Nation (Sadler’s Wells a BBC Arts, 2021).