Oleksiy Palchykov
Astudiodd y tenor o Wcráin, Oleksiy Palchykov, y trwmped a chanu corawl yn ei dref enedigol Kyiv, cyn perffeithio ei sgiliau yn Academi Gerdd Genedlaethol Tchaikovsky dan hyfforddiant Petr Koval. Yn 2012 ymunodd â’r Atelier Lyrique (Paris National Opera) a pherfformiodd Gernando L’Isola disabitata, Ecclitico Il Mondo della luna, Corws The Rape of Lucretia, Don Ottavio Don Giovanni a Pylade Iphigénie en Tauride. Yn 2017, ymunodd â’r Hamburg Staatsoper Ensemble. Yn fwy diweddar bu’n perfformio rhannau Lensky Eugene Onegin a Fenton Falstaff (Komische Oper Berlin), Cassio Otello (Munich), Don Ottavio Don Giovanni (Zurich a Glyndebourne Festival).
Gwaith y dyfodol: Saëb Barkouf (Zurich), Narraboth Salomé, Rinuccio Gianni Schicchi, Belmonte Die Entführung aus dem Serail, Tito La Clemenza di Tito ac Alfredo La traviata (Hamburg), Tamino The Magic Flute (Lausanne), Rinuccio Il trittico (WNO), a Rodolfo La bohème (Komische Oper Berlin).