Cwrdd â WNO

Olga Pudova

Ymunodd Olga Pudova ag Academi Cantorion Ifanc Mariinsky tra’r oedd hi’n astudio yn y St Petersburg Conservatoire, a bu’n perfformio wedyn gyda’r Mariinsky Theatre yn St Petersburg, ac ar daith yn y DU, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Japan, UDA, Monaco a’r Eidal. Enillodd y wobr gyntaf yng nghystadlaethau Elena Obrastzova a Nadezhda Obukhova yn ogystal â’r ail wobr yng nghystadlaethau Rimsky-Korsakov, Competizione dell'opera ac Operalia.

Gwaith diweddar a gwaith ar gweill: Grand Theatre de la Ville de Luxembourg ar gyfer Konstanze (Entführung), Opéra national de Paris (Die Zauberflöte) a Bayerische Staatsoper (Ariadne auf Naxos a Die Zauberflöte)