
Olivia Clarke
Mae’r arweinydd Prydeinig/Wyddelig Olivia Clarke, Seren y Dyfodol Cylchgrawn Cerddoriaeth y BBC, yn gweithio ledled y DU ac Ewrop i gwmnïau opera a chyngherddau symffonig. Yn ddiweddar ymddangosodd Olivia am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa Philharmonig Frenhinol, WNO a’r Opera Brenhinol, gan ddychwelyd i Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Philharmonia, Sinfonia Smith Square, a Glyndebourne. Yn ddiweddar arweiniodd Olivia Die Zauberflöte yn y Royal Academy of Music ac ymddangosodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Aldeburgh yn arwain Savitri gyda’r Britten Sinfonia. Roedd Clarke yn Gymrawd Arwain Mackerras Opera Cenedlaethol Lloegr (2020-2023) ac yn Arweinydd Cynorthwyol i Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham (2022-2023). Y llynedd ymddangosodd Clarke am y tro cyntaf fel arweinydd Il turco in Italia yn Glyndebourne ar gyfer eu tymor Hydref, ar ôl bod yn arweinydd cynorthwyol yn rheolaidd ers 2021.