
Cwrdd â WNO
Oscar Castellino
Bariton o India yw Oscar Castellino. Canodd rôl George Benton yng nghynhyrchiad WNO o Dead Man Walking yn 2019. Cafodd ei gyfansoddiad, Rise to Mars, ei ddewis gan y Mars Society fel 'Mars Anthem' yn 2017. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar greu opera newydd sy'n seiliedig ar stori gwerthwr ffrwythau o India.