
Owain Rowlands
Astudiodd Owain Rowlands, y bariton a anwyd yn Sir Gaerfyrddin, Fathemateg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn ei radd meistr mewn Perfformio yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yn fwy diweddar, hyfforddodd yn Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC).
Mae uchafbwyntiau Owain yn cynnwys chwarae'r brif ran yng nghynhyrchiad CBCDC o Don Giovanni, perfformio yng ngala flynyddol WNO a chynrychioli Cymru yn Expo 2025 yn Japan fel Llysgennad Diwylliannol Rhyngwladol yr Urdd a CBCDC.
Mae llwyddiant Owain mewn cystadlaethau yn cynnwys bod yn rownd derfynol cystadleuaeth Ysgoloriaeth Bryn Terfel, Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pentywyn yn Eisteddfod Llangollen a Chanwr Ifanc y Flwyddyn Dunraven. Yn flaenorol hefyd, enillodd Llais Llwyfan Llanbed, Cystadleuaeth Canwr Ifanc Cymru Llundain, gwobr Ysgoloriaeth W Towyn Roberts a Gwobr Syr Ian Stoutzker.
Gwaith diweddar: Notary/Guccio/Pinellino Gianni Schicchi (Cyfro yn WNO), Brikbrak Alcina’s Island (Opera Clasurol Bampton), John/Pete Impresario (Gŵyl Ryngwladol Buxton), Prif ran Don Giovanni a Bottom A Midsummer Night’s Dream (CBCDC).