Cwrdd â WNO

Paul Ayres

Ganed Paul Ayres yn Llundain. Astudiodd Gerddoriaeth yn Oxford University, ac mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel cyfansoddwr, trefnydd, arweinydd corawl, cyfarwyddwr cerddoriaeth, organydd a chyfeilydd. Mae ei waith wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau cyfansoddi yn rhyngwladol ac mae wedi derbyn dros gant o gomisiynau gan grwpiau cerddorol o bob lliw a llun.

Mae mwyafrif o gyfansoddiadau Paul yn rai gorawl, lleisiol, offerynnol ar raddfa fach, ac yn gerddoriaeth ar gyfer y theatr. Mae gwaith Paul yn archwilio'r cydadwaith rhwng arddulliau poblogaidd a ffurfiau baróc/clasurol, ac mae ei weithiau'n aml yn defnyddio croesgyfeirio, patrymau rhifiadol, a hiwmor. Mae hefyd yn arwain ac yn cyfeilio i nifer o gorau yn ardal Llundain. Mae’n mwynhau arwain gweithdai cerddoriaeth gyda phlant, chwarae allweddellau ar gyfer sioeau comedi byrfyfyr, a dyfeisio croeseiriau dirgel.