Paul Carey Jones
Ganwyd a magwyd y bariton Paul Carey Jones yng Nghaerdydd. Fel siaradwr Cymraeg rhugl, astudiodd yn Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, y Royal Academy of Music a'r National Opera Studio. Ef oedd enillydd Cystadleuaeth Ganu’r Gymdeithas Wagner yn 2013 a chafodd ei ethol fel Cymrawd y Royal Academy of Music yn ddiweddar fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad i'r diwydiant cerddoriaeth glasurol. Mae ei waith operatig yn cynnwys ymddangosiadau fel prif artist gwadd ar gyfer cwmnïau opera blaenllaw ar draws y DU ac Ewrop; mae wedi ymddangos yn aml fel Wotan yng Nghylch y Ring Wagner, yn ddiweddaraf ar gyfer Longborough Festival Opera, ac ymddangosodd fel Dr Schön yn Lulu gan Berg ar gyfer WNO. Mae Paul yn adfocad ymrwymedig dros gerddoriaeth gyfoes, yn enwedig gan gyfansoddwyr Cymreig, ac mae ei ddisgyddiaeth yn cynnwys tri albwm unawdol.