Paul Hughes
Ymunodd Paul Hughes â’r BBC yn 1999 ac roedd yn Gyfarwyddwr Cerddorfa Symffoni a Chorws y BBC ac yn Gyfarwyddwr y BBC Singers. Yn raddedig o’r Trinity College of Music lle astudiodd biano, cyfansoddi ac arwain, daeth Paul i’r BBC yn dilyn rolau arwain uwch gyda The Academy of Ancient Music, IMG Artists, y Royal Scottish National Orchestra a’r Monteverdi Choir and Orchestra.
Mae newid diwylliannol, agor mynediad i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol a chydweithredu gyda’r ystod ehangaf o artistiaid o fydoedd cerddoriaeth glasurol, roc a phop, llenyddiaeth a theledu wedi gyrru Paul ymlaen drwy gydol ei yrfa.
Yn gyn Lywodraethwr y Guildhall School of Music & Drama, mae Paul yn frwd dros ddarganfod a meithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion. Mae’n ddarlithydd gwadd yn nifer o conservatories blaenllaw y DU, sy’n mentora arweinwyr, cyfansoddwyr a gweinyddwyr celfyddydau.
Mae’n aelod anrhydeddus o’r Trinity College of Music, y Guildhall School of Music & Drama, y Royal College of Music ac yn ddiweddar mae wedi cael ei anrhydeddu gan lywodraeth y Ffindir am wasanaethau i gerddoriaeth Ffinnaidd. Gwahoddir Paul fel beirniaid ar gyfer cystadlaethau cerddoriaeth rhyngwladol yn rheolaidd.
Mae'n aelod bwrdd i Opera Cenedlaethol Cymru, ac o'r Three Choirs Festival.