
Cwrdd â WNO
Paul Jenkins
Mae Paul yn actor ac yn grëwr theatr sy’n byw yng Nghaerdydd. Astudiodd yn Goldsmiths College ac enillodd wobr BBC Carleton Hobbs cyn ymuno â BBC Radio Rep. Mae ei waith actio diweddar yn cynnwys Julius Ceasar ar gyfer The Factory Theatre Company, Sonnet Sunday yn theatr Globe Shakespeare ac ar gyfer teledu Cinderella: After Ever After gyda King Bert Productions. Bydd ei sioe un-dyn Moscow Love Story yn cael ei rhagddangosiad yn Theatr Sherman cyn agor yn The Pleasance yng ngŵyl ffrinj Caeredin yn 2024.