Paul Lewis
Trosolwg
Ganwyd Paul Lewis yn Lerpwl ac fe astudiodd gyda Joan Havill yn y Guildhall School of Music and Drama yn Llundain cyn mynd yn ei flaen i astudio’n breifat gydag Alfred Brendel. Mae ei gylchoedd o ddarnau piano craidd gan Beethoven a Schubert wedi derbyn canmoliaeth unfrydol gan y beirniaid a’r cyhoedd yn fyd-eang, ac wedi atgyfnerthu ei enw fel un o ddehonglwyr mwyaf blaenllaw repertoire clasurol canolbarth Ewrop. Ymhlith y gwobrau niferus y mae Lewis wedi’u hennill y mae Gwobr Offerynnwr y Flwyddyn y Royal Philharmonic Society, dwy wobr Edison, tair gwobr Gramophone, y Diapason D'or de l'Annee, y Preis Der Deutschen Schallplattenkritik, y Premio Internazionale Accademia Musicale Chigiana, a gwobr Cerddoriaeth Glasurol y South Bank Show. Mae’n gyd-Gyfarwyddwr Artistig Midsummer Music a Chystadleuaeth Piano Ryngwladol Leeds. Mae gan Lewis raddau er anrhydedd gan Brifysgolion Lerpwl, Edge Hill, a Southampton, ac fe gafodd ei anrhydeddu’n CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.