Paul Sartin
Mae Paul yn gantor, yn chwarae'r obo a'r ffidil, ac yn aelod o Belshazzar’s Feast, Faustus (Preis der Deustchen Schallplattenkritik 2017) a'r diweddar Bellowhead a oedd wedi ennill gwobrau’r BBC. Roedd yn Ysgolhaig Corawl yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, ac yna'n Glerc Lleyg yn Eglwys Gadeiriol Christ Church, Rhydychen, a Dirprwy Faswr dewisol yng Nghôr Eglwys Gadeiriol Caerwynt. Mae Paul yn cyfarwyddo'r Andover Museum Loft Singers ac wedi gosod ar gyfer Community Choirs Folk (Faber Music). Mae wedi cael ei enwebu ar gyfer BASCA fel cyfansoddwr, ac mae ei gomisiynau diweddar yn cynnwys gwaith ar gyfer y BBC, RSC, Aldeburgh Music, y Southbank, a'r Central School of Speech and Drama. Ef oedd trefnydd a Chyfarwyddwr Cerddorol The Transports (Guradian****) a derbynnydd Gwobr Pen-blwydd 75 Mlynedd yr English Folk Dance and Song Society.