Cwrdd â WNO

Professor Medwin Hughes

Yr Athro Medwin Hughes sydd wedi gwasanaethu am y cyfnod hwyaf erioed fel Is-ganghellor yng Nghymru, a dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth ad-drefnu’r system Addysg Uwch yng Nghymru.  Mae'n fyfyriwr graddedig o Brifysgol Aberystwyth a Choleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen. 

Fel person cyfan gwbl ddwyieithog, mae wedi gwasanaethu fel Is Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac ar sawl pwyllgor cynghori Llywodraeth Cymru a Chyngor Ewrop parthed polisïau addysgol a diwylliannol.  Mae wedi cefnogi sawl menter genedlaethol sydd wedi canolbwyntio ar faterion rhyngddiwylliannol.  Mae’n ddadleuwr brwd dros gynhwysiant a thegwch diwylliannol drwy addysg a’r celfyddydau.  Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae rhan flaenllaw gyda sawl elusen yng Nghymru ac mae ganddo werthfawrogiad cadarn o reoli newid a llywodraethiant effeithiol. Ef yw Cadeirydd un o’r elusennau mwyaf yng Nghymru - y Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.