
Cwrdd â WNO
Pumza Mxinwa
Ganed Pumza Mxinwa yn Butterworth, De Affrica ac ymunodd â Cape Town Opera yn 2011. Yn 2014, tra roedd hi hefyd yn unawdydd soprano gydag Ensemble Lleisiol Cape Town Opera, perfformiodd am y tro cyntaf fel Evelyn yn y Mandela Trilogy yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yn 2016 yng Ngŵyl Ravenna; perfformiodd hefyd ran Serena yn Porgy and Bess pan deithiodd y cwmni i'r Ariannin.
Gwaith diweddar: Evelyn Mandela Trilogy (Cape Town Opera); Lily Porgy and Bess (ENO, Dutch National Opera)