Raffaele Abete
Ganed y tenor Raffaele Abete yn Naples ac astudiodd yn y Conservatorio di Musica Domenico Cimarosa yn Avellino dan gyfarwyddyd y Maestro Pasquale Tizzani, gan arbenigo gyda Luciana Serra, Renato Bruson a Lella Cuberli. Roedd ei rolau cyntaf yn cynnwys Conte D'Almaviva, Il Barbiere di Siviglia yn Pescara a Tirana; Don Ottavio yn Don Giovanni gan Mozart (Europa Musica); Edgardo yn Lucia di Lammermoor yn y Teatro Marrucino yn Chieti; Requiem Verdi; Tosca; Symffoni Rhif 9 Beethoven gyda’r Orchestra I Pomeriggi Musicali ym Milan; a Messa di Gloria gan Puccini yn y Teatro Filarmonico yn Verona.
Mae Raffaele Abete wedi ennill llu o wobrau, yn cynnwys yr enillydd yng Ngŵyl Opera Atena, yr enillydd yn y Gystadleuaeth Etta e Paolo Limiti ym Milan a’r enillydd yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Ottavio Ziino (gwobr y gynulleidfa). Yn 2015, enillodd y wobr Una voce per l'Arena yn Verona. Ers hynny, mae wedi canu rôl Ismaele yn Nabucco a rôl Rodolfo yn La bohème yn Verona ac yng Ngŵyl Puccini yn Torre del Lago. Perfformiodd am y tro cyntaf yn America yn Opera Dinas Efrog Newydd yn 2016, gan berfformio rôl Cavaradossi yn Tosca, ac arweiniodd y perfformiad hwnnw at lu o berfformiadau fel y Dug yn Rigoletto.
Mae ei ymrwymiadau diweddar yn cynnwys sawl cynhyrchiad o Madama Butterfly yn rôl Pinkerton – yn Verona, Bologna, Staatsoper Fienna a Thŷ Opera Copenhagen. Yn 2022, gweithiodd ar ddau gynhyrchiad gyda’r cyfarwyddwr Hugo De Ana: Cavaradossi yn Tosca ac Alfredo mewn cynhyrchiad newydd o La traviata. Yn fwy diweddar, cymerodd ran yn Stiffelio gan Verdi yn Dijon ac yn Le Villi gan Puccini ym Mainz.