Raimund Bauer
Trosolwg
Astudiodd Raimund Bauer Dylunio ar gyfer y Llwyfan yn y Mozarteum yn Salzburg a’r Hochschule für Angewandte Kunst Wien. Dechreuodd ei yrfa fel dylunydd preswyl yn Schauspiel Köln a Staatstheater Stuttgart. Ers 1983 mae wedi dylunio setiau ar gyfer nifer o gynyrchiadau theatr ac opera, gan weithio yn rhyngwladol mewn gwledydd yn cynnwys Lloegr (ROH, ENO), Sbaen, Yr Eidal, UDA (Chicago, San Francisco, Los Angeles) Siapan, Gwlad Pwyl, Ffrainc, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Awstria a’r Swistir. Cyflwynwyd yr Opus Deutscher Bühnenpreis i Bauer yn 2009 am ei ddyluniad ar gyfer cynhyrchiad David Pountney o King Roger.
Gwaith diweddar: Dylunydd Set Der Rosenkavalier (Hessisches Staatstheater Wiesbaden); The Circle (Deutsches Nationaltheater und Staatskapelle Weimar); Un ballo in maschera (WNO)