Cwrdd â WNO

Rakie Ayola

Mae Rakie Ayola yn gynhyrchydd ac yn actores glodfawr a fagwyd yn ardal Trelái Caerdydd. Dros yrfa o 36 mlynedd hyd yma, derbyniodd Wobr Actores Gefnogol Orau BAFTA, Gwobr Actores Orau BAFTA Cymru a Gwobr Sian Phillips BAFTA Cymru. 

Mae Rakie yn raddedig ac yn Gymrawd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (RWCMD), gyda Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Warwig a Chymrodoriaeth er Anrhydedd o Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance a Phrifysgol Aberystwyth. Mae’n Ymddiriedolwr Welsh National Theatre, Fuel Theatre a Wayout Arts, ac mae’n Llysgennad i Sefydliad Anthony Walker. Yn ogystal, mae’n Noddwr o’r Actors Children’s Trust, Childhood Tumour Trust, Collage Voices a Praxis Performing Arts.

Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys chwarae Persephone yn Kaos (Netflix), serennu yn Ail Gyfres The Pact (hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol) ac ymddangos gyferbyn â Rhys Ifans yn nrama On Bear Ridge Ed Thomas, ac am y gwaith hwnnw hyn fe enillodd y wobr Perfformiad Benywaidd Gorau y BBTA. Gallwch hefyd weld Rakie yn serennu ochr yn ochr â Saoirse Ronan mewn prif ffilm sydd ar y gweill, Bad Apples (Pulse Films i Paramount), dan gyfarwyddyd Jonatan Etzler. Yn 2017, sefydlodd Rakie Shanty Productions gyda’i gŵr, Adam Smethurst, ac yn ddiweddar maent wedi cynhyrchu eu ffilm fer arobryn, Hedgehog. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd y gwaith o ffilmio Falling, a ysgrifennwyd gan Jack Thorne (Channel 4).