Cwrdd â WNO
Rebecca Afonwy-Jones
Y tro cyntaf i Rebecca Afonwy-Jones berfformio gyda WNO oedd yn 2014 fel Iarlles Geschwitz yn Lulu. Yn dilyn hynny, fe ymunodd â’r cwmni fel Artist Cyswllt. Ymhlith y rolau y mae wedi’u chwarae y mae Anna Kennedy Maria Stuarda, 4edd Wyryf Noeth/Merch Wael ei Hiechyd Moses und Aron, a Lola Cavalleria Rusticana. Mae ei pherfformiadau cyngerdd yn cynnwys Dream of Gerontius ar gyfer Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RTÉ, Requiem Mozart gydag Ensemble Offerynnau Chwyth Norwy a Symffoni Rhif 9 Beethoven gyda’r Royal Philharmonic.
Perfformiadau diweddar: Suzuki Madam Butterfly (Festival Opera New Zealand, WNO, Dubai Opera); Kerstin Juliana (Y perfformiad cyntaf yn y byd yng Ngŵyl Cheltenham)