Rebecca Evans
Trosolwg
Ganwyd Rebecca Evans yn Ne Cymru ac astudiodd yn y Guildhall School of Music & Drama. Mae hi wedi perfformio nifer o brif rannau ar gyfer cwmniau opera blaenllaw ar draws Ewrop ac America, gan gynnwys y Marschallin Der Rosenkavelier (WNO); Contessa Le nozze di Figaro, Mimì La bohème, Pamina Die Zauberflöte a Zerlina Don Giovanni (Royal Opera). Mae hi’n ymddangos yn aml mewn cyngherddau mewn gwyliau fel y BBC Proms ac yn perfformio gyda cherddorfeydd adnabyddus yn cynnwys yr LSO, Hallé Orchestra a’r Accademia Santa Cecilia. Fel artist sydd wedi ennill Grammy, mae hi wedi recordio'n helaeth gyda Syr Charles Mackerras a Syr John Eliot Gardiner. Mae Rebecca yn Ymddiriedolwr y Colwinston Charitable Trust ac mae’n noddwr sawl elusen, gan gynnwys Shelter Cymru, Tŷ Hapus a Music in Hospitals Cymru. Dyfarnwyd CBE i Rebecca yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2020. Mae Rebecca hefyd yn llysgennad rhaglen Artistiaid Cyswllt WNO.
Gwaith diweddar a’r dyfodol: Despina Così fan tutte, Nella Il trittico, Mrs Nerys Price Blaze of Glory! (WNO); Marcellina Le nozze di Figaro (ROH & ENO).