Cwrdd â WNO

Rebecca Meltzer

Mae Rebecca Meltzer yn Gyfarwyddwr Opera, Cyfarwyddwr Symudiad a Choreograffydd o Lundain. Mae ei gwaith yn tynnu ar ei chefndir mewn cerddoriaeth, symudiad a chelf weledol, ac yn cael ei ddathlu am ei adrodd straeon gonest a’i elfen gorfforol. Mae wedi cydweithio gyda chwmnïau ar draws y DU a cyn rhyngwladol yn cynnwys Royal Opera, Scottish Opera, Opera Holland Park, Gŵyl Ryngwladol Buxton, Gŵyl Wexford a New Zealand Opera. 

Mae gwaith Rebecca fel Coreograffydd a Chyfarwyddwr Symudiad yn cynnwys A Midsummer Night’s Dream a Rodelinda (Garsington Opera/BBC Proms), The Rape of Lucretia (English Touring Opera), Andrea Chénier (Theatre St Galen), Vanessa (Gŵyl Spoletto) a Hänsel und Gretel (Opera’r Academi Frenhinol). 

Mae ei gwaith cyfarwyddo yn cynnwys: Semele (Opera Holland Park), Opera Shorts (Gŵyl Ryngwladol Buxton), The Turn of the Screw, Svadba a Mansfield Park (Gŵyl Opera Waterperry/New Zealand Opera). Mae Rebecca hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Rhaglen Artistiaid Ifanc Gŵyl Opera Waterberry, gŵyl a gyd-sefydlodd yn 2018.