
Rhydian Jenkins
Tenor o Gymru yw Rhydian Jenkins, ac mae wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan hyfforddiant Adrian Thompson a John Fisher. Ar hyn o bryd, mae'n Artist Ifanc yn y National Opera Studio. Enillodd wobr Canwr Cymreig Ifanc y Flwyddyn MOCSA yn 2021 ac Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2019, ac mae ei waith diweddar yn cynnwys Anthony Hope Sweeney Todd (Buxton Opera House); Alfred Die Fledermaus (CBCDC) a Don Ottavio Don Giovanni (Saluzzo Opera Academy). Roedd hefyd yn Artist Addawol gyda Clonter Opera. Ymysg y rhannau eraill y mae wedi eu chwarae y mae Peter Quint The Turn of the Screw a Basilio The Marriage of Figaro. Fel deiliad Gwobr Opera Sybil Tutton a Gwobr David Goldman (The Musicians’ Company), mae Rhydian hefyd yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth a nawdd The Countess of Munster Musical Trust a The Darkley Trust (Ysgoloriaeth Robert Maskrey).