Cwrdd â WNO
Riccardo Saggese
Mae Riccardo Saggese yn artist syrcas o’r Eidal. Mae wedi gweithio i nifer o gwmnïau syrcas, gan gynnwys NoFit State, Company XIV, a Heart Ibiza gan Cirque du Soleil. Disgyblaethau arbenigol Riccardo yw acrobateg awyr sy’n cynnwys strapiau, hŵp, sidanau, trapîs dwbl ac acrobateg partner. Mae wedi hyfforddi a dysgu dros y blynyddoedd mewn gwahanol ysgolion syrcas a sefydliadau FEDEC ledled y byd.
Perfformiadau diweddar: NoFitState, Piccola Scuola di circo di Milano, Creat Valencia ac Art Euro.