Roderick Williams
Trosolwg
Bu Roderick Williams yn ysgolor corawl yng Magdalen College, Oxford ac yna daeth yn athro cerddoriaeth, gan astudio’n ddiweddarach yn y Guildhall School of Music & Drama fel myfyriwr hŷn. Mae Roderick wedi canu ym mherfformiadau cyntaf y byd o operâu gan David Sawer, Sally Beamish, Michael van der Aa, Robert Saxton ac Alexander Knaifel, yn ogystal â rolau gan Mozart, Britten a Strauss. Mae wedi perfformio repertoire cyngherddau gyda sawl cerddorfa ac ensemble blaenllaw ledled y byd, gan gynnwys Berlin Philharmonic a’r New York Philharmonic, London Symphony Orchestra a phob un o gerddorfeydd y BBC. Ac yntau’n ddatgeiniad, mae wedi perfformio mewn lleoliadau mawr a gwyliau drwy’r byd i gyd, gan gynnwys Proms y BBC, Caeredin, Cheltenham, Aldeburgh a Melbourne. Yn 2016, enillodd wobr Canwr RPS a’r wobr am y cyfansoddiad corawl gorau yng Ngwobrau Cyfansoddwyr Prydain. Fe’i dyfarnwyd ag OBE am wasanaethau i gerddoriaeth yn 2017.