
Cwrdd â WNO
Ronald Samm
Cafodd Ronald Samm ei eni a’i fagu yn Nhrinidad. Hyfforddodd yn y Guildhall School of Music & Drama, y Royal Northern College of Music a’r National Opera Studio. Ef oedd y dyn du cyntaf i berfformio’r brif rôl yn Otello yn y DU ac mae ei waith diweddar yn cynnwys Canio yn Pagliacci, Conor Mac Nessa yn Deirdre and the Sons of Usna gyda Cork Opera a’r Everyman Theatre a recordiad diweddar o ddetholiad o The Mask in the Mirror gan y cyfansoddwr Prydeinig Richard Thompson gyda ENO ar gyfer y gyfres arlein Mae Bywydau Du o Bwys.