Cwrdd â WNO

Ross Fettes

Bas bariton o’r Alban yw Ross Fettes, a raddiodd yn ddiweddar o Ysgol Opera Genedlaethol y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, lle astudiodd dan gyfarwyddyd Graeme Broadbent.

Mae ei rolau opera diweddar yn cynnwys Figaro Le nozze di Figaro, Don Inigo Gomez L’heure espagnole, Baron Mirko Zeta The Merry Widow a Pasquariello Don Giovanni Tenorio, oll yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Yn ogystal, perfformiodd fel Figaro gyda Westminster Opera yn eu cynhyrchiad o Le nozze di Figaro.