
Roxana Haines
Ganwyd Roxana Haines, y cyfarwyddwr theatr ac opera, ym Mryste. Astudiodd Roxana yn Goldsmiths, University of London, a chwblhaodd MA mewn Ymarfer Theatr Uwch yn y Royal Central School of Speech and Drama. Yn dilyn ei hyfforddiant mewn theatr ddyfeisiol, pypedwaith, theatr gorfforol a symud, aeth i weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol gyda Syr David McVicar, Katie Mitchell, John Fulljames, Phelim McDermott a Dominic Hill. Bu’n Gyfarwyddwr Staff preswyl yn Scottish Opera o 2019 i 2023. Mae prosiectau mwyaf gwerth chweil Roxana wedi cydbwyso gwaith therapiwtig, ymgysylltiad a newid cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio ar gyfer MSc mewn Dramatherapi ym Queen Margaret University yng Nghaeredin.
Gwaith diweddar:Cyfarwyddwr Cynorthwyol Carmen, Ainadamar a Gondoliers (Scottish Opera), Cyfarwyddwr Cyswllt Ainadamar (Detroit Opera), Cyfarwyddwr Burning Bright (Oran Mor, Glasgow), Rubble (Scottish Opera Young Company), a L'elisir d'amore, Così fan tutte a La bohéme (Scottish Opera).