Rusne Tuslaite
Perfformiodd y soprano o Lithuania, Rusnė Tušlaitė, am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Lithuania yn 17 oed fel enillydd y gystadleuaeth ganu ar y teledu Dainų dainelė a hi oedd Perfformiwr y Dyfodol y Royal Opera House yn eu sesiynau Grŵp Llywio'r Cyngor Ieuenctid yn 2021. Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau yn y Royal Academy of Music, chwaraeodd ei rhan gyntaf fel Iarlles Almaviva yn The Marriage of Figaro (HGO). Chwaraeodd ran Tiresias yn y perfformiad cyntaf un o Cantata Superba (Ensemble Audentia) gan Geoffrey King, yn ogystal â Susanna yn The Marriage of Figaro (RAM Scenes) a Manolayn yn Chérubin (Royal Academy Opera). Rusnė yw aelod ieuengaf Glyndebourne Chorus 2022 ac mae ar fin perfformio ym Mhroms y BBC ac yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin.