
Ryan Upton
Yn ddawnsiwr Ballet/Cyfoes ac yn goreograffydd, hyfforddodd Ryan Upton yn y Northern Ballet School. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf proffesiynol fel Romeo yng nghynhyrchiad Feelgood Theatre o Romeo and Juliet, ac yn dilyn hynny fe symudodd i America lle y dawnsiodd am nifer o flynyddoedd gyda Mystic Ballet yn Connecticut. Ers dychwelyd i’r DU yn 2020, mae Ryan wedi bod yn gweithio i’r Institute of Contemporary Theatre a’r Northern Ballet School ynghyd â choreograffu a chreu darnau ar gyfer cynyrchiadau colegau a’r Feelgood Theatre.
Gwaith diweddar: Coreograffydd Sylph to Stratospheric (Northern Ballet School); Santa Claus The Snowman (Peacock Theatre West End); Coreograffydd & White Rabbit Alice in Wonderland (Feelgood Theatre Productions); Skuttle The Little Mermaid (Mystic Ballet)