Trosolwg
Ymunodd y feiolinydd Wyddelig Róisín Verity â WNO yn 2021 ar ôl iddi weithio fel prif feiolin gyntaf gyda cherddorfa siambr Britten Sinfonia, gyda phwy fe berfformiodd yn nifer o leoliadau pwysig gan gynnwys y Wigmore Hall a’r Lincoln Centre yn Efrog Newydd. Mae Róisín wedi perfformio fel cyngerddfeistr gwadd gyda cherddorfeydd ar draws y DU.
Darlledwyd perfformiad Róisín o The Lark Ascending gyda’r RTÉ Concert Orchestra ar RTÉ Lyric FM, a’i thaith hunangyfeiriedig o America gyda’r RIAM Chamber Orchestra lle rhoddwyd perfformiadau yn Weill Hall, Carnegie Hall a’r Metropolitan Club yn Efrog Newydd. Mae Róisín hefyd yn feiolinydd cyntaf y Liverpool String Quartet ac mae’n gweithio gyda’r ensemble cyfoes y London Sinfonietta. Mae hi wedi perfformio premiere byd gweithiau Steve Reich, Raymond Deane a Gerald Barry.
Ers iddi symud i Gaerdydd, sefydlodd Róisín y gyfres cerddoriaeth siambr, The Chamber Stiwdio, gyda’i gŵr, prif glarinét WNO, Thomas Verity.