
Cwrdd â WNO
Sally Matthews
Mae Sally Matthews yn soprano Brydeinig ac yn gyn-aelod o’r rhaglen artistiaid ifanc y Royal Opera House. Mae ei hymddangosiadau yn Nhymor 2023/2024 yn cynnwys Leonore Fidelio (Berlin Staatsoper); Athrawes Gartref Turn of the Screw (La Monnaie, Brussels) ac Emilia Marty The Makropulos Case (Concertgebouw, Amsterdam).
Yn ystod Tymor 2022/2023, bu Sally yn perfformio fel Blanche de la Force Dialogues des Carmélites (Glyndebourne), The Marschallin Der Rosenkavalier a Tatyana Eugene Onegin (La Monnaie and Norwegian National Opera). Ar y llwyfan gyngerdd, mae Sally wedi ymddangos gyda’r L’Orchestra Symphonique de la Monnaie ac Alain Altinoglu; Orchestra of Opéra de Rouen a Ben Glassberg; a’r Dresden Philharmonie mewn rhaglen o Mozart a Mahler. Perfformiodd un o’i darnau arbennig, Das Paradies und die Peri gan Schumann, gyda’r Orquesta Sinfonica di Navarra a dychwelodd i'r rôl deitl yn The Cunning Little Vixen gan Janáček yn Amsterdam.