Cwrdd â WNO

Sam Sharples

Mae Sam Sharples yn wneuthurwr ffilmiau, cyfarwyddwr, sinematograffwr a golygydd profiadol o Hastings. Mae ei waith hynod amrywiol yn cynnwys ffilmiau nodwedd, rhaglenni dogfen, tafluniadau theatr, gosodiadau, perfformiadau, fideos cerddoriaeth a ffilmiau byr mwy arbrofol. Astudiodd Sam yn yr Eastbourne College of Arts and Technology ac yn ysgol ffilm Prifysgol Cymru, Casnewydd, cyn ymgymryd â gradd Meistr mewn Rhaglenni Dogfen yn Royal Holloway, University of London. Cafodd gosodiad o’i ffilm raddio Nan and John ei ddangos yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain. Yn 2019 golygodd Sam Identity, portread o’r canwr Poly Styrene o’r band X-Ray Specs, ac yn 2021 cwblhaodd waith ar The Romance of Bricks, portread dogfennol o’r artist Liz Finch. Ochr yn ochr â’r ffilmiau hyn mae’n parhau i greu fideos cerddoriaeth ar gyfer Susheela Raman gyda’r ffotograffydd/cyfarwyddwr Andrew Catlin. 

Gwaith diweddar: Dyluniad Fideo The Makropulos Affair (WNO), Golygydd A Portrait of the Artist (rhaglen ddogfen am yr artist Jacqueline Stanley) a fideos cerddoriaeth Susheela Ramen.