
Cwrdd â WNO
Samantha Price
Trosolwg
Astudiodd Samantha Price Therapi Lleferydd ac Iaith ym Mhrifysgol Reading cyn ennill Rhagoriaeth yn ei MA mewn Perfformio Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Daeth yn Artist Samling yn 2013 a chyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Canwr Ifanc y Flwyddyn Cymru yn 2014. Creodd Price rôl Perdita yn The Winter Tale gan Ryan Wigglesworth ar gyfer English National Opera ac mae bellach yn Artist Ifanc Harewood.