Cwrdd â WNO

Samuel Snowden

Astudiodd y Bariton o Gymru, Samuel Snowden, yn y Royal Northern College of Music (RNCM). Yn 2024 bu’n Artist Ifanc Opera Holland Park, gan berfformio rhan Doctor Bartolo yn The Barber of Seville. Yn ogystal, ym mis Medi y flwyddyn honno, sefydlodd ran John yn y perfformiad cyntaf o Gresford: Up From Underground gan Jonathan Guy (New Sinfonia). Yn 2020, enillodd Samuel wobr Syr John Manduell gan y RNCM, i gydnabod gwaith gwych a wnaed mewn ymateb i’r pandemig COVID-19. Cododd £1500 i’r ymgyrch Unbeatable Eva, gan ganu’n fyw ar Facebook bob nos am 150 diwrnod, yn ogystal â gwirfoddoli gyda Hwb Cyfarpar Diogelu Personol Wrecsam i greu fisorau wyneb. 

Mae ei uchafbwyntiau diweddar yn cynnwys: Masetto Don Giovanni (Cumbria Opera Group), Court Usher Rigoletto (Opera Holland Park), Figaro The Marriage of Figaro, Mr Gobineau The Medium and Minskman Flight (RNCM). Mae Samuel hefyd wedi perfformio gydag Opera Canolbarth Cymru, Gothic Opera a’r English National Ballet.